1. Cyflwyniad

1..1. Paratowyd y dystiolaeth hon i gyfrannu at ymgynghoriad pwyllgor y Cynulliad Cenedlaethol ar Berthynas Cymru â'r Undeb Ewropeaidd yn y Dyfodol.

1..2. Ynglŷn â Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) yw’r mudiad aelodaeth cenedlaethol i’r trydydd sector yng Nghymru. Ein gweledigaeth yw dyfodol lle mae’r trydydd sector a gwirfoddoli yn ffynnu ledled Cymru, gan wella llesiant i bawb. Ein cenhadaeth yw bod yn gatalydd dros newid positif drwy gysylltu, galluogi a dylanwadu.

1..3. Mae safbwynt WCVA yn cyd-fynd yn agos ag un Llywodraeth Cymru ar nifer o feysydd allweddol, sef mynediad at y farchnad sengl a’r undeb tollau, parhau i gyfranogi yn rhaglenni cydweithredu Ewrop a’r rhwydweithiau cysylltiedig ac ymrwymiad i’r mesurau amddiffyn cymdeithasol, amgylcheddol a chyflogaeth sydd wedi’u sicrhau drwy ein haelodaeth o’r UE. 

2. Cynnal a ffurfio perthynas newydd â sefydliadau perthnasol yr UE i warchod a hybu hawliau

2..1. Cafodd llawer o reoliadau a deddfwriaeth yr UE sy’n sail i hawliau yn y Deyrnas Unedig eu hysgogi gan gymdeithas sifil. Rhaid i ni gynnal ein perthynas â’r sefydliadau Ewropeaidd perthnasol er mwyn cynorthwyo i ddatblygu a hybu hawliau a mesurau amddiffyn ar ôl Brexit. Os cymerir unrhyw gamau tuag at wanhau hawliau yn y DU, ni fydd hyn yn adlewyrchu’r safbwynt datganoledig. I ddangos ei hymrwymiad i warchod hawliau, dylai Llywodraeth Cymru gryfhau ei pherthynas annibynnol â Chyngor Ewrop i alluogi Cymru i fod yn fwy rhagweithiol mewn perthynas â chonfensiynau’r UE a’r Sefydliad Llafur Rhyngwladol. 

3. Cynnal mynediad at raglenni cyllido ehangach Ewrop 

3..1. Mae WCVA yn cefnogi safbwynt Llywodraeth Cymru ar gynnal mynediad at raglenni cydweithredu trawswladol Ewrop, megis rhaglenni ETC,

Daphne ac Erasmus+. Byddai diddymu mentrau a arweinir gan bobl ifanc, a ariennir gan Erasmus+ er enghraifft, yn rhoi cenhedlaeth iau Cymru dan anfantais fawr o ran eu gallu i fanteisio ar gyfleoedd cyflogaeth ac addysg Ewropeaidd ar ôl Brexit. 

4. Cynnal cysylltiadau â’r UE ar gyfer cymdeithas sifil y DU

4..1. Mae’r Undeb Ewropeaidd yn llawer iawn mwy nag ardal fasnach rydd. Mae Cymru yn cael cryn fudd o gydweithredu’n agos â Chymdeithas Sifil Ewrop. Mae angen i Lywodraeth y DU sicrhau bod cysylltiadau a rhwydweithiau Ewropeaidd cymdeithas sifil yn cael eu cynnal gan y mecanweithiau cefnogi a buddsoddi cywir os yw hi o ddifrif ynglŷn â pheidio â llithro’n ôl a mynd i’r afael â heriau cymdeithasol mewn byd cynyddol gydgysylltiedig ac ansicr. Yn y bôn, mae cymdeithas sifil yn allforiwr democratiaeth gyfranogol. Mae hyn yn ymestyn o froydd i’r llwyfan byd-eang, lle gall dinasyddion chwarae rhan lawn mewn penderfyniadau sy’n effeithio ar y byd o’u cwmpas, a dylanwadu arnynt. Rhaid sicrhau nad yw Brexit yn gwanhau ein cyfranogi a’n cysylltiadau Ewropeaidd.

5. Dylai’r DU Aros yn y farchnad sengl a’r undeb tollau 

5..1. Trwy benderfynu aros yn y Farchnad Sengl a’r Undeb Tollau Ewropeaidd, bydd y DU yn cynnal cydweddiad rheoleiddiol agos â Gweriniaeth Iwerddon ac yn atal yr angen am ffin galed rhwng Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon neu rhwng Gweriniaeth Iwerddon neu Ogledd Iwerddon a Phrydain. Credwn fod y canlyniad hwn yn hanfodol bwysig i warchod y broses heddwch ac i atal yr effeithiau economaidd a chymdeithasol sylweddol ar bobl a busnesau y byddai creu ffin galed yn eu hachosi. 

6. Cyfnod pontio digonol

6..1. Bydd penderfynu beth a ddaw nesaf yn hynod o gymhleth a rhaid wrth amser i roi prosesau a threfniadau newydd yn eu lle. Mae angen cyfnod pontio digonol, er mwyn sicrhau cyn lleied o ddryswch ac ansicrwydd â phosibl. Dylai Llywodraeth y DU osgoi dyddiadau cau mympwyol a rhoi blaenoriaeth i gyflawni’r gorchwyl dan sylw mewn modd priodol ac mewn cyfnod pontio esmwyth a threfnus. Efallai y bydd angen i hyn fynd y tu hwnt i nod y Llywodraeth sef 24 mis. 

7. Parhau i ymgysylltu 

7..1. Mae’r trydydd sector yn chwarae rôl hanfodol yn hyrwyddo gwerthoedd positif, gan roi llais i grwpiau sydd ar yr ymylon a datblygu atebion creadigol i rai o drafferthion mwyaf dyrys ein cymdeithas. Mae’n hollbwysig bod y trydydd sector a chymdeithas sifil yn ehangach yn cael eu cynnwys yn llawn ym mhob cam o’r broses bontio er mwyn sicrhau canlyniadau gwell i bawb.

 8. Trafodaeth

8..1. Os dymunir, byddem yn falch o drafod y pwyntiau hyn ymhellach neu unrhyw bwyntiau eraill yn ymwneud â’r ymchwiliad hwn.